Cynlluniau Teithio Cyngor Caerdydd
Mae Cyngor Caerdydd yn arwain trwy esiampl ac mae ganddo raglen waith i ddatblygu Cynlluniau Teithio i’w weithwyr yng Nghaerdydd. Mae Cynlluniau Teithio wedi cael eu cymeradwyo ar gyfer prif safleoedd y cyngor, yn cynnwys:
- Neuadd y Sir
- Neuadd y Ddinas
- Ty Willcox ac Adeilad Global
- Brindley Road a Bessemer Close.
I gefnogi’r gwaith cynllunio teithio, mae Cyngor Caerdydd wedi datblygu Strategaeth Cynllunio Teithio sy’n cynnwys nodau a chynllun gweithredu ar gyflawni’r nodau hynny, yn ogystal â thargedau a strwythurau monitro.
Mae’r Cynlluniau Teithio a’r Strategaeth Cynllunio Teithio ar gael isod.
Mae pob Cynllun Teithio yn dilyn proses debyg wrth gael ei ddatblygu yr anogir pob sefydliad i'w defnyddio pan yn datblygu eu cynlluniau teithio eu hunain. Mae templed Cynllun Teithio y gellir ei addasu’n hawdd i gwrdd ag anghenion gwahanol sefydliadau hefyd ar gael yma.
Neuadd y Sir
Neuadd y Ddinas
Ty Willcox ac Adeilad Global
Brindley Road a Bessemer Close
Strategaeth Cynllunio Teithio
I gael rhagor o wybodaeth am gynllunio teithio neu drafnidiaeth gynaliadwy yng Nghaerdydd, cysylltwch drwy:
Ffonio: 029 2087 3722
e-bostio: travelplans@caerdydd.gov.uk

Cyngor ar fesurau i hyrwyddo teithio cynaliadwy.