Strategaeth Cludiant Caerdydd

Bydd ein gallu i ddarparu gweledigaeth cludiant Caerdydd ac i ddatrys problemau trafnidiaeth yn dibynnu ar ein gallu i annog pobl i gerdded, seiclo neu ddefnyddio cludiant cyhoeddus yn hytrach na’u ceir neu lle bo modd, rannu ceir ar siwrneiau.

Strategaeth trafnidiaeth graidd Caerdydd yw cael pobl i ddefnyddio llai ar eu ceir drwy ddatblygu a hybu dulliau real a deniadol amgen a thrwy ostwng y galw am deithio yn enwedig mewn ceir.

Mae’r strategaeth yn canolbwyntio ar dair prif thema:

Ehangu‘r Dewis o Ddulliau Teithio - byddwn yn sicrhau bod ystod o opsiynau real a deniadol ar gael ar gyfer y rhan fwyaf o siwrneiau a bod pobl yn gwybod amdanyn nhw.

Rheoli’r Galw - byddwn yn cyflwyno ystod o fesurau i leihau’r galw am deithio yn gyffredinol ac yn cyfyngu ar y defnydd o’r car lle bo’n briodol.

Rheoli’r Rhwydwaith - byddwn yn defnyddio ystod o fesurau i wneud y defnydd gorau o’r rhwydwaith sydd eisoes yn bodoli a gwella gwasanaethau a hygyrchedd pob dull o deithio ac yn enwedig dulliau amgenach na defnyddio’r car.

 
Cardiff County Council Crest

Am fwy o wybodaeth amdan gwasanaethau a chyfleustra Cyngor Caerdydd.

 Cyngor ar fesurau i hyrwyddo teithio cynaliadwy.

 

 

Cardiff Car Share

Sef cynllun rhannu teithiau i weithwyr.

Cardiff Bike Scheme

Am wybodaeth am y Cynllun Beic sy’n gweithredu yng Nghaerdydd.