Problemau iechyd oherwydd dulliau byw sy'n ddibynnol ar geir
Mae diffyg ymarfer sy’n gysylltiol â gor-ddefnyddio’r car yn un o’r problemau iechyd sydd ar gynnydd ac mae wedi ei gysylltu â materion iechyd difrifol megis gordewdra, clefyd y galon, strôc, canser a chlefyd siwgr.
Bocs ystadegau:
- Mae 60% o ddynion a 70% o fenywod yn ymarfer cyn lleied nes eu bod mewn gwir berygl o ddioddef clefyd y galon, clefyd siwgr, strôc neu ordewdra. (Ffynhonnell: Yr Awdurdod Addysg Iechyd).
- Mae 10% o blant chwe mlwydd oed ac 20% o rai 15 oed yn awr yn rhy dew (Ffynhonnell: Yr Asiantaeth Datblygu Iechyd, 2003).

Cyngor ar fesurau i hyrwyddo teithio cynaliadwy.