Mynediad at wasanaethau a chyfleusterau
Un o'r problemau allweddol yng Nghaerdydd yw pa mor hawdd yw hi i bobl deithio i gyrraedd gwasanaethau ac adnoddau lleol.
Ni all pobl, bob amser, deithio'n ddiffwdan i ble maen nhw'n ddymuno, pryd maen nhw eisiau, sut maen nhw'n dymuno ac am bris y gallan nhw ei fforddio. Gall hygyrchedd fod yn broblem i'r rhai hynny sy'n byw mewn tlodi neu ar ei gyrion, gan gynnwys y diwaith, y rhai mewn gwaith â thâl isel, rhai pobl hyn a phobl ifanc a phobl ag anableddau neu rhai sydd â phlant ifanc. Gallai'r diffyg mynediad hwn i gludiant diogel a fforddiadwy arwain at eithrio cymdeithasol lle na all pobl gyfranogi'n llawn yn y gymdeithas.
Datblygiadau sy'n rhannol gyfrifol am y problemau hyn, pethau fel swyddfeydd, siopau ac ysgolion yn cael eu gwasgaru'n ehangach ac heb fod wedi eu lleoli o fewn cyrraedd i fannau hwylus ar gyfer cludiant cyhoeddus, cerdded a beicio. Achosir problemau hefyd pan na fydd blaenoriaeth yn cael ei roi i gerddwyr, beicwyr a chludiant cyhoeddus a phan na fydd digon o sylw wedi ei roi i anghenion teithio'r bobl wrth gynllunio gwasanaethau ac adnoddau.
Bocs ystadegau:
- Mae hygyrchedd yn gallu bod yn broblem benodol i 30% o aelwydydd Caerdydd sydd â dim car y gallan nhw ei ddefnyddio (Ffynhonnell: Y Swyddfa Ystadegau Gwladol, Cyfrifiad 2001).

Cyngor ar fesurau i hyrwyddo teithio cynaliadwy.