Llygredd aer a newid yn yr hinsawdd

Trafnidaeth ar y ffyrdd yw un o brif ffynonellau llygredd sy'n niweidio ansawdd yr aer a'n hiechyd. Cysylltwyd llygryddion hir dymor yr aer â phroblemau iechyd difrifol gan gynnwys clefyd y galon, risg o ganser ac afiechydon anadlu megis asthma mewn oedolion a phlant. Yng Nghaerdydd, mae pedair ardal â phroblem llygredd aer sef Ardaloedd Rheoli Ansawdd yr Aer y dyfeisiwyd cynllun ar eu cyfer i wella ansawdd yr aer.

Mae allyriadau trafnidaeth ffyrdd ac awyr hefyd yn cyfrannu'n sylweddol at y newid yn yr hinsawdd, a gallai hyn effeithio'n ddifrifol ar Gaerdydd yn y tymor hir. Mae'r broblem o newid yn yr hinsawdd mor ddifrifol nes i'r Llywodraeth, yn ddiweddar gydnabod mai hon oedd 'sialens amgylcheddol fwyaf y byd'.

Bocs ystadegau:

  • Mae cerbydau'n cynhyrchu 90% o'r carbon monocsid, 51% o'r nitrogen ocsid, 41% o'r cyfansoddion organic ffrwydrad a 19% o'r deuocsid carbon sy'n cael eu rhyddhau i'r atmospher (Ffynhonnell: Car Free London Exhibition, 1999).
  • Mae llygredd aer yn achosi rhwng 12,000 a 24,000 o farwolaethau cynamserol bob blwyddyn yn y DU (Ffynhonnell: Committee on the Medical Effect of Air Pollutants).
  • Mewn tagfeydd traffig trwm gall ansawdd yr aer fod yn waelach tu fewn i'r car nag ar y tu fâs. Mae defnyddwyr ceir yn dioddef hyd at deirgwaith yn fwy na cherddwyr (Ffynhonnell: Environmental Transport Association).
 
Cardiff County Council Crest

Am fwy o wybodaeth amdan gwasanaethau a chyfleustra Cyngor Caerdydd.

 Cyngor ar fesurau i hyrwyddo teithio cynaliadwy.

 

 

Cardiff Car Share

Sef cynllun rhannu teithiau i weithwyr.

Cardiff Bike Scheme

Am wybodaeth am y Cynllun Beic sy’n gweithredu yng Nghaerdydd.