Tagfeydd

Tagfeydd traffig yw prif broblem cludiant Caerdydd. Bu cynnydd cyflym yn nhraffig Caerdydd ac mae hynny'n achosi rhwystrau mawr mewn ambell ran o'r ddinas, gan arafu teithiau ceir, bysys a chludiad nwyddau.

Rydyn ni wedi cyrraedd y man lle mae newidiadau bychain yn y traffig yn achosi tagfeydd enfawr ar gyffyrdd ac ar y priffyrdd sy'n arwain i ganol y ddinas. Yn ychwanegol at hyn, rhagwelir y bydd traffig Caerdydd yn parhau i gynyddu ar raddfa sy'n achosi cryn ofid ac mae hynny'n golygu bod teithio mewn car yn mynd i fod yn fwy anodd yn y dyfodol.

Me llawer o ffactorau wedi achosi'r cynnydd hwn mewn traffig yng Nghaerdydd gan gynnwys twf yn y galw, perchnogaeth ceir, nifer y gyrwyr, gweithgaredd economaidd a'r cynnydd yn y boblogaeth a nifer yr ymwelwyr. Gall gostyngiad yn niferoedd y rhai sy'n teithio gyda'i gilydd yn yr un car a gwasgariad datblygiadau hefyd gyfrannu i'r broblem. Cynyddodd y defnydd o geir wrth i'r incwm sydd gan bobl i'w wario gynyddu ac wrth i gostau moduro ddod yn rhatach na chostau cynyddol cludiant cyhoeddus.

Prif achos tagfeydd yw'r dewis a wneir gan bobl o'r adeg a'r mannau maen nhw am ddefnyddio eu ceir i deithio. Mae'r rhesymau eraill yn cynnwys y diffyg gofod sbar sydd yna ar gyffyrdd a chyffyrdd-cyfnewid a'r cerbydau hynny sydd wedi eu parcio'n anghyfreithlon ac yn achosi rhwystrau ar y ffyrdd.

Mae'r tagfeydd yn broblem i bob un ohonom. Daw'r cynnydd mewn traffig a'r tagfeydd â'r canlynol yn eu sgil:

  • oedi a thagfeydd traffig fydd yn ymledu dros gyfnodau mwy a mwy bob dydd ac i ragor o ffyrdd Caerdydd
  • teithiau araf, annibynadwy, hwyr a rhwystredig wrth i bob defnyddiwr ffordd gael ei ddal mewn traffig
  • cerbydau argyfwng yn gorfod oedi wrth iddyn nhw gael eu dal mewn traffig a methu teithio'n ddirwystr
  • bygythiad i fusnesau Caerdydd oherwydd cost yr amser a gollir wrth i weithlu a chludiad nwyddau gael eu dal yn y traffig
  • rhagor o lygredd a nwyon ty gwydr, yn andwyo iechyd pobl a'r amgylchedd
  • diogelwch ar y ffyrdd ac ansawdd bywyd yn cael ei fygwth wrth i fwy a mwy o geir fod ar y ffyrdd, cynnydd mewn swn traffig a phobl yn defnyddio strydoedd preswyl fel 'dihangfeydd'.

Bocs ystadegau:

  • Cynyddodd traffig Caerdydd 18% rhwng 1993 a 2002 (Ffynhonnell: National Road Traffic Survey, Department for Transport). Mae'r cynnydd hwn yn gyfwerth â theithio 11,075 o weithiau rownd y byd.
  • Rhagwelir y bydd traffig Caerdydd yn cynyddu rhwng 7% a 10% yn rhagor dros y 5 mlynedd nesaf (Ffynhonnell: National Road Traffic Forecasts, Department for Transport, wedi eu haddasu ar gyfer Caerdydd)
  • Mae bws deulawr yn cludo yr un faint o bobl ag 20 car llawn (Ffynhonnell: TravelWise)
 
Cardiff County Council Crest

Am fwy o wybodaeth amdan gwasanaethau a chyfleustra Cyngor Caerdydd.

 Cyngor ar fesurau i hyrwyddo teithio cynaliadwy.

 

 

Cardiff Car Share

Sef cynllun rhannu teithiau i weithwyr.

Cardiff Bike Scheme

Am wybodaeth am y Cynllun Beic sy’n gweithredu yng Nghaerdydd.