.
Peidiwch â chreu problemau wrth barcio!
Cyngor Caerdydd yn lansio cynllun parcio newydd
- Traffig yn llifo’n well a diogelwch ffyrdd y ddinas yn well
- Trafnidiaeth gyhoeddus yn fwy dibynadwy a siwrneiau byrrach
- Llai o gamddefnydd ar lefydd parcio anabl
- Lleihau problemau parcio o gylch ysgolion ac ysbytai
- Llai o rwystrau i gerbydau brys
- Gwell mynediad i gerbydau dosbarthu
- Mwy o lefydd parcio byr dymor y tu allan i siopau lleol
- Lleihau niwed i balmentydd a lleiniau ffordd
- Gwell amodau i gerddwyr, seiclwyr a phobl anabl
- Gwell amodau mewn ardaloedd preswyl
- Peidiwch â pharcio lle mae cyfyngiadau aros neu lwytho llinellau melyn mewn grym
- Peidiwch â pharcio ar linellau dwbl melyn unrhyw bryd
- Darllenwch arwyddion ffordd – maen nhw yno am reswm ac yn cynnwys gwybodaeth am ba gyfyngiadau sy’n weithredol
- Peidiwch â pharcio ar linellau igam-ogam ger croesffyrdd a thu allan i ysgolion
- Peidiwch â pharcio mewn mannau llwytho oni bai eich bod yn llwytho neu'n dadlwytho nwyddau
- Peidiwch â pharcio mewn llefydd anabl (os nad oes gennych yr hawl i wneud hynny).
- Sicrhewch eich bod wedi talu digon am hyd eich tocyn talu ac arddangos a chaniatewch ddigon o amser i wneud yr hyn sydd gennych i'w wneud.
- Neu defnyddiwch ddull teithio gwahanol, fel y trên, bws neu barcio a theithio a beth am ystyried cerdded neu seiclo?
- Ar gyfer parcio preswyl, mae'n bwysig bod eich trwydded yn ddiweddar. Edrychwch ar y dyddiad y daw i ben.
-------
Rhannu Ceir Caerdydd
RhannuCeirCaerdydd.com yw gwefan rhannu teithiau Cyngor Caerdydd sy’n rhoi cyfle i aelod unigol ddod o hyd i gyd-deithiwr posibl ar gyfer rhan o'u taith i'r gwaith neu'r daith i gyd. Mae’r cynllun yn cynnwys teithiau a wneir ar droed, beic, trafnidiaeth gyhoeddus a thacsi yn ogystal â char.
Canllaw byr ar rhannu ceir
Canllaw i ddefnyddwyr RhannuCeirCaerdydd
Canllaw ar sefydlu cynllun rhannu siwrnai
Mae’r system grwp caeedig wedi’i datblygu mewn partneriaeth â Jambusters Cyf i ddarparu gwasanaeth am ddim i sefydliadau sy'n tanysgrifio.
Gall cynllun rhannu teithiau diogel ar ffurf grwp caeedig wneud cyfraniad cadarnhaol at leihau nifer y ceir ar y ffyrdd yn ystod oriau brig.
Mae cynllun rhannu ceir rhanbarthol, sy’n cwmpasu de-ddwyrain Cymru, hefyd ar gael. Darperir Sewtacarshare.com gan Gynghrair Trafnidiaeth De-ddwyrain Cymru (Sewta) ac mae’n agored i bob defnyddiwr ar gyfer unrhyw fath o daith (e.e. teithio i ddigwyddiad arbennig).
RhannuCeirCaerdydd
Mae RhannuCeirCaerdydd yn cynnig cynlluniau rhannu siwrne i grwp caeedig o weithwyr.

Cyngor ar fesurau i hyrwyddo teithio cynaliadwy.