Trenau
Mae strategaeth cludiant Caerdydd ar gyfer y rheilffyrdd yn cynnwys gweithio mewn partneriaeth â gweithredwyr ac awdurdodau lleol cyfagos er mwyn gwneud gwelliannau i'r gwasanaethau, y gorsafoedd ac isadeiledd y rhwydwaith. Hyd yma, gwnaed ystod o welliannau gan gynnwys darparu cysgodfeydd, Teledu Cylch Cyfyng, mannau gwybodaeth/cymorth i gwsmeriaid, gwella'r goleuo, estyniadau i'r platfformau ac ailwampio'r adnoddau toiled. Gwnaed gwelliannau hefyd yn y gwasanaethau i Benarth, Y Barri, Treherbert a Rhymni.
Mae'r cynlluniau sydd ar y gweill yn cynnwys ehangu Gorsaf Stryd y Frenhines fel na fydd hi mor orlawn yno.
Bydd gwasanaethau trenau cyflym, dibynadwy hygyrch ac effeithlon yn gwneud y trên yn ddull amgen deniadol o deithio yn hytrach nag ar y ffyrdd, yn arbennig i gymudwyr i ddod i mewn ac i deithio oddi mewn i Gaerdydd ac i gludiant nwyddau yn ogystal. Fel y bysys, dylid cydlynu'r trenau â gwasanaethau trenau eraill a mathau eraill o gludiant er mwyn gwneud trosglwyddo o'r naill i'r llall mor rhwydd â phosibl i'r teithwyr.
Wrth i fwy a mwy o bob ddewis teithio ar y trên yn hytrach na defnyddio car, bydd hyn yn gwella hygyrchedd i wasanaethau a chyfleusterau, cynyddu diogelwch a bydd yn gostwng tagfeydd a llygredd yn ogystal.
Rheilffordd: Cynllunio eich siwrne
Mewn partneriaeth â'r cwmnïau trenau rydym yn gweithio tuag at drenau cyflym, dibynadwy ac effeithlon.

Cyngor ar fesurau i hyrwyddo teithio cynaliadwy.