Grantiau Cynllun Teithio Dinas Deithio Gynaliadwy

Fel rhan o’r fenter Dinas Deithio Gynaliadwy, mae Grantiau yn cael eu cynnig i sefydliadau ledled Caerdydd i’w helpu i ariannu mesurau sy’n cefnogi mentrau trafnidiaeth gynaliadwy ac yn help i ddatblygu a gweithredu eu cynllun teithio.

Cynigir grantiau o hyd at £10,000. Bydd angen i ymgeiswyr ddangos y bydd y mesurau a gynigir yn cyflawni gostyngiad mewn cerbydau ag un person.

Gwahoddir ymgeiswyr i drafod eu cynnig cyn ymgeisio. Cysylltwch â ni ar travelplans@caerdydd.gov.uk neu 02920 873722. Y dyddiad cau i ymgeisio am gyllid yw dydd Gwener 4 Mehefin.

Ymgeisio am Grant Cadw Caerdydd i Symud

Mae ymgeisio am Grant Cadw Caerdydd i Symud yn rhwydd. Cliciwch ar un o’r dolenni isod i weld neu lawrlwytho’r ffurflen gais a’r nodiadau cyfarwyddyd. Darperir costau dangosol hefyd fel enghreifftiau o fesurau posibl y gellir defnyddio’r cyllid ar eu cyfer, yn ogystal ag astudiaethau achos rownd gyntaf grantiau 2009. Mae ffurflenni ar wahân ar gyfer ysgolion ac ar gyfer sefydliadau eraill, felly sicrhewch eich bod yn dewis yr un cywir.

Gweithleoedd:

Ffurflen Gais
Nodiadau Cyfarwyddyd
Costau Dynodol

Astudiaeth Achos

Ysgolion:
Ffurflen Gais
Nodiadau Cyfarwyddyd
Costau Dangosol
Astudiaeth Achos

Mae’r Pecyn Cymorth Teithio Actif, a gynhyrchir gan Sustrans Cymru yn cynnwys gwybodaeth ddefnyddiol a syniadau am fentrau y gall eich sefydliad eu hystyried wrth wneud cais am y grant. Gellir lawrlwytho’r Pecyn Cymorth o wefan Sustrans.

Cyflwyno eich cais
Cwblhewch y ffurflen a’r dogfennau ategol a’u hanfon ar e-bost neu eu postio at:
travelplans@caerdydd.gov.uk

Cheryl Owen, Swyddog Cynllunio Teithio, Cadw Caerdydd i Symud, Polisi Trafnidiaeth, Ystafell 301, Neuadd y Sir, Caerdydd CF10 4UW

Os ydych yn anfon ffurflen gais drwy’r post, sicrhewch eich bod chi’n cadw copi. Fe'ch cynghorir hefyd i'n hysbysu os ydych wedi postio eich ffurflen gais (ar travelplans@caerdydd.gov.uk neu 02920 873722).
 


04 June 2010

Grantiau Cynllun Teithio Dinas Deithio Gynaliadwy
26 April 2010

Rhwydwaith Cynllun Teithio Cadw Caerdydd i Symud
20 April 2010


23 September 2009


11 August 2009

Y Cynllun Grant Dinas Trafnidiaeth Gynaliadwy
08 July 2009


11 March 2009

 
Cardiff County Council Crest

Am fwy o wybodaeth amdan gwasanaethau a chyfleustra Cyngor Caerdydd.

 Cyngor ar fesurau i hyrwyddo teithio cynaliadwy.

 

 

Cardiff Car Share

Sef cynllun rhannu teithiau i weithwyr.

Cardiff Bike Scheme

Am wybodaeth am y Cynllun Beic sy’n gweithredu yng Nghaerdydd.