Y Cynllun Grant Dinas Trafnidiaeth Gynaliadwy
Fel rhan o’r fenter Dinas Trafnidiaeth Gynaliadwy, mae Cynllun Grant yn cael ei gynnig i sefydliadau yng Nghaerdydd i’w helpu i ariannu mesurau sy’n cefnogi mentrau trafnidiaeth gynaliadwy ac yn help i ddatblygu a gweithredu eu cynllun teithio.
Bydd grantiau o hyd at £10,000 yn cael eu cynnig. Bydd gofyn i ymgeiswyr ddangos sut fydd y mesurau yn lleihau'r defnydd o gerbydau ag un person ynddynt, a rhoddir credydau ychwanegol i geisiadau sydd wedi cynnal arolwg teithio a/neu fod Cynllun Teithio/mesurau rheoli cyflenwol mewn grym.
Gwneud Cais i’r Cynllun Grant Dinas Trafnidiaeth Gynaliadwy
Mae gwneud cais am Grant Dinas Trafnidiaeth Gynaliadwy yn hawdd. Cliciwch ar y ddolen gyferbyn i weld neu lawrlwytho'r ffurflen gais a’r nodiadau cyfarwyddyd atodol.
Bydd tri chyfle i wneud cais am grant. Dyddiad cau'r rownd gyntaf ar gyfer gwneud cais fydd 30 Medi, yr ail fydd 30 Hydref a’r drydedd rownd fydd 30 Tachwedd.
Mae’r Pecyn Cymorth Teithio Byw, a gaiff ei gynhyrchu gan Sustrans Cymru yn cynnwys gwybodaeth ddefnyddiol a syniadau am fentrau y gall eich sefydliad eu hystyried wrth wneud cais am y grant. Gellir lawrlwytho’r Pecyn Cymorth o wefan Sustrans:
Mae’r pecyn gwneud cais hefyd yn cynnwys rhestr o brisiau mynegol ar gyfer rhai mesurau Teithio Byw e.e. prynu cronfa o feiciau a darparu hyfforddiant seiclo.
Cwblhewch y ffurflen a’r dogfennau atodol a’u he-bostio i travelplans@caerdydd.gov.uk neu argraffwch nhw, eu llofnodi a’u hanfon drwy’r post neu dros ffacs i:
Cyfeiriad: Cheryl Owen, Polisi Trafnidiaeth, Ystafell 301, Neuadd y Sir, Caerdydd CF10 4UW.
Ffacs: 02920 873246.
Gwahoddir ymgeiswyr i drafod eu cynnig gyda Swyddog Cynllunio Trafnidiaeth Cyngor Caerdydd cyn gwneud cais. Cysylltwch drwy e-bostio travelplans@caerdydd.gov.uk neu ffonio 02920 873722.
Grantiau Cynllun Teithio Dinas Deithio Gynaliadwy
26 April 2010
Rhwydwaith Cynllun Teithio Cadw Caerdydd i Symud
20 April 2010
Y Cynllun Grant Dinas Trafnidiaeth Gynaliadwy
08 July 2009

Cyngor ar fesurau i hyrwyddo teithio cynaliadwy.